Plastig yw un o ddeunyddiau mwyaf poblogaidd a defnyddiol ein hoes, ac mae’n bwysig ein bod yn optimeiddio hyd oes plastigion cymaint â phosibl. Yn fyd-eang, rydym yn cynhyrchu 300 o filiynau o dunelli bob blwyddyn ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu eu plastigion.
Pam mae’n bwysig ailgylchu plastig?
Mae plastig yn ddeunydd poblogaidd ac amlbwrpas, ac rydyn yn defnyddio llawer arno. Gall ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau cymaint o weithiau â phosibl leihau’r angen inni greu plastig newydd.
Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu:
Defnyddio llai ar danwydd ffosil anadnewyddadwy (olew);
Lleihau’r ynni a ddefnyddir i gynhyrchu plastig newydd;
Lleihau allyriadau nwyon fel carbon deuocsid i’r atmosffer.
Sut caiff plastig ei ailgylchu?
Mae holl gynghorau Cymru’n casglu poteli, potiau a thybiau plastig. Wedi iddynt gael eu casglu, caiff yr eitemau plastig hyn eu gwahanu oddi wrth ddeunyddiau eraill a’u didoli yn ôl y math o bolymer, eu rhwygo, eu golchi, eu toddi, eu troi’n belenni a’u troi’n nwyddau newydd.
Gwneir y didoli’n bennaf â llaw er mwyn sicrhau bod yr holl halogyddion yn cael eu tynnu allan;
Unwaith maent wedi’u didoli a’u glanhau, gellir naill ai rhwygo plastig yn fflochiau, neu eu prosesu drwy eu toddi’n belenni cyn cael eu mowldio i wneud nwyddau newydd.
Dim ond 25 o boteli plastig eilgylch mae’n ei gymryd i wneud hwdi neu siwmper cnu newydd. Os nad ydym yn ailgylchu’r holl boteli, potiau a thybiau plastig o’n cartrefi, caiff eu potensial ei golli am byth.
Sut caiff plastig eilgylch ei ddefnyddio?
Gellir gwneud amrywiaeth eang o nwyddau allan o blastig eilgylch, yn cynnwys:
Poteli diodydd a thybiau dal bwyd;
Ffabrig polyester i wneud dillad;
Biniau olwynion a chadis gwastraff bwyd;
Bagiau bin a bagiau plastig;
Compostwyr ac abwydfeydd;
Leinwyr bwâu olwynion a ffenders ar geir;
Haenau atal lleithder;
Cretiau a phaledi ailddefnyddiadwy;
Potiau blodau, tybiau hadau, caniau dyfrio a chasgenni dŵr.
Sut i ailgylchu plastig
Poteli, tybiau a photiau plastig
Mae poteli plastig o bob math fel arfer wedi’u gwneud o ddau fath o blastig sy’n hawdd ei ailgylchu - PET ac HDPE. Ar hyn o bryd, mae 99% o holl gynghorau lleol y Deyrnas Unedig yn cynnig cyfleusterau casglu ar gyfer poteli plastig naill ai drwy gasgliadau ailgylchu o’r cartref neu mewn Canolfannau Ailgylchu. Hefyd, mae mwy a mwy o gynghorau lleol yn cynnig casgliadau ar gyfer deunyddiau pacio plastig cymysg, fel potiau a thybiau.
Mae’r rhan fwyaf o bobl eisoes yn ailgylchu plastigion, ond drwy nodi eich cod post yn ein Lleolydd Ailgylchu, gallwch wirio pa fathau o blastig mae eich cyngor lleol yn eu casglu er mwyn sicrhau eich bod yn ailgylchu cymaint o blastigion â phosibl, yn cynnwys y rhai o’r gegin a’r ystafell ’molchi!
Bagiau a deunyddiau lapio plastig
Yng Nghymru, nid oes modd ailgylchu unrhyw blastig ystwyth gartref, ond gellir yn aml eu hailgylchu mewn mannau ailgylchu oddi cartref.
Os na allwch fynd â’ch eitemau plastig ystwyth i fan ailgylchu oddi cartref a bod angen ichi gael gwared arnynt gartref, yna rhowch yr holl rai o blith yr enghreifftiau ar ein tudalen ‘Plastig ystwyth’ yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Plastig compostadwy
Efallai bydd rhai mathau o blastig yn dweud eu bod yn gompostadwy mewn compostiwr cartref. Fodd bynnag, ni ddylid rhoi’r mathau yma o blastig yn eich casgliad ailgylchu sych nac yn eich bin gwastraff o’r ardd, gan na ellir eu hailgylchu yn yr un modd â phlastig anfiodiraddadwy.
Deall symbolau ar becynnau plastig
Gall deall sut i ailgylchu rhai eitemau beri dryswch ar adegau. Gall y symbolau ar becynnau plastig helpu i egluro o ba fath o blastig y maent wedi’u gwneud a sut i’w hailgylchu – dysgwch fwy am ddeall symbolau ailgylchu.