Skip to main content
English
English
Tri caniau plastig llaeth

Sut i Ailgylchu

Deall symbolau ailgylchu

Ar y dudalen hon

Mae symbolau ailgylchu’n ymddangos ar lawer o eitemau cyffredin ac maent yn ein helpu i ddeall sut gellir ailgylchu gwahanol fathau o ddeunydd pacio.

Y label ailgylchu ar y pecyn (neu OPRL)

Cadwch lygad am y labeli canlynol sy’n ymddangos ar bob math o ddeunyddiau pacio, o ganiau diodydd ysgafn, i fagiau bara a photeli nwyddau ymolchi plastig. Gelwir y rhain yn ‘labeli ailgylchu ar y pecyn’, neu ‘on-pack recycling labels/OPRL’. Bydd y rhain yn dweud wrthych a yw’r deunydd pacio hwnnw’n debygol o gael ei gasglu i’w ailgylchu o gartref neu os gallwch fynd ag ef i’ch canolfan ailgylchu leol.

Gan nad yw pob cyngor lleol yn derbyn yr un deunyddiau, mae’r labeli wedi’u seilio ar yr hyn mae’r rhan fwyaf ohonynt yn eu casglu, neu nad ydynt yn eu casglu.

Os bydd unrhyw amheuaeth, rhowch eich cod post yn ein teclyn Lleolydd Ailgylchu i ddarganfod beth allwch ei roi yn eich cynhwysydd gartref a sut i ailgylchu eitemau penodol fel ffonau symudol a thecstilau.

Cofiwch: nid oes label ailgylchu ar bob eitem o ddeunydd pacio, ond nid yw hyn yn golygu na allwch ei ailgylchu.

"Swoosh" ailgylchu gwyn gyda'r gair "Recycle"

Ailgylchwch

Mae’r label hwn yn cael ei roi ar ddeunydd pacio a gaiff ei gasglu gan 75% o gynghorau lleol ledled y Deyrnas Unedig, er enghraifft, poteli plastig.

Logo ailgylchu gwyn gyda'r geiriau "Rinse" a "Recycle"

Ailgylchwch | Rinsiwch

Mae rhoi rinsiad sydyn i ddeunyddiau pacio, er enghraifft tybiau bwyd, yn sicrhau nad yw gweddillion bwyd yn ‘halogi’ deunyddiau eraill, yn enwedig os cânt eu casglu ynghyd â chardbord neu bapur.

Mae cardbord neu bapur sy’n seimllyd, yn wlyb neu wedi’i staenio o ansawdd gwaelach, sy’n golygu ei fod yn llai tebygol o gael ei ailgylchu.

Logo ailgylchu gwyn gyda'r geiriau "Lid on" a "Recycle"

Ailgylchwch | Rinsiwch | Caead Ymlaen

Mae caeadau sydd â diamedr llai na 40mm yn rhy fach i gael eu dal yn y broses ailgylchu, a gallant fynd ar goll. Os gwelwch y label hwn, rhowch y caead yn ôl ar y botel neu’r jar i sicrhau ei fod yn cael ei ddal a’i ailgylchu gyda’r brif eitem.

Logo ailgylchu gwyn gyda llinell trwy a'r geiriau "Remove Sleeve" a "Sleeve" a "Don't Recycle"

Peidiwch ag Ailgylchu | Tynnwch yr Haenen

Efallai y gwelwch y cyfarwyddyd hwn ar ddeunydd pacio y gellir tynnu plastig ystwyth neu leinwyr gyda stribed tyllog oddi arno’n hawdd, heb orfod defnyddio cyllell neu siswrn. Dylai’r eitem gario cyfarwyddiadau clir ar sut i wneud hyn, er enghraifft ‘peel here’.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon