Skip to main content
English
English

Plastig Ystwyth

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Plastig Ystwyth mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Os na allwch fynd â’ch eitemau plastig ystwyth i fan ailgylchu oddi cartref a bod angen ichi gael gwared arnynt gartref, yna rhowch yr holl rai o blith yr enghreifftiau isod (o’r ddwy restr) yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Pa fathau o blastig ystwyth y gellir eu hailgylchu oddi cartref?

Gall y mathau o blastig ystwyth a gaiff eu derbyn mewn mannau ailgylchu oddi cartref amrywio rhwng lleoliadau gwahanol. Er enghraifft, efallai y bydd un archfarchnad yn derbyn rhai mathau o blastig ystwyth, a siop arall yn eu gwrthod, felly dilynwch y canllawiau a roddir gan y sefydliad sy’n rheoli’r man ailgylchu hwnnw.

Gallai’r mathau o blastig ystwyth a gaiff eu derbyn mewn mannau ailgylchu oddi cartref gynnwys:

  • Holl fagiau plastig, heblaw bagiau bioddiraddadwy neu gompostadwy;

  • Bagiau bara;

  • Bagiau leinio bocsys grawnfwyd;

  • Haenen lynu a’r modrwyau clymu o becynnau aml-becyn o ddŵr, caniau ac eitemau eraill;

  • Bagiau bwyd o’r rhewgell, e.e. bagiau llysiau wedi’u rhewi, sglodion bwyd arall;

  • Bagiau sych lanhawyr neu fagiau sy’n gorchuddio dillad newydd;

  • Bagiau lapio plastig oddi ar gylchgronau a phapurau newydd;

  • Bagiau sy’n dal ffrwythau a llysiau rhydd;

  • Swigod lapio;

  • Pecynnau creision;

  • Plastig sydd wedi’i farcio fel polyethylen dwysedd isel (Low-density/LDPE) – cod adnabod resin 4;

  • Bagiau bara plastig;

  • Deunydd lapio plastig o becynnau aml-becyn caniau/poteli/creision;

  • Deunydd lapio plastig o becynnau papur toiled/papur cegin;

  • Bagiau rhewgell plastig;

  • Bagiau salad plastig;

  • Deunydd pacio plastig o archebion ar-lein;

  • Bagiau pasta a reis;

  • Bagiau bwyd cath a bwyd ci sych;

  • Bagiau compost a phridd i’r ardd.

Gallai’r mathau o blastig ystwyth sy’n debygol o BEIDIO cael eu derbyn mewn mannau ailgylchu oddi cartref gynnwys:

  • Unrhyw fagiau neu haenau budr, er enghraifft os oes darnau o fwyd arnynt;

  • Unrhyw blastig ystwyth nad yw’n bolyethylen (fel PP, PVC, ac eraill);

  • Haenen lynu;

  • Bagiau a haenau compostadwy a bioddiraddadwy;

  • Caeadau plastig ystwyth oddi ar gynwysyddion prydau parod a photiau;

  • Pecynnau/codenni sy’n dal bwyd, diod a bwyd anifeiliaid;

  • Deunydd lapio o’r becws, fel bagiau gyda nifer o fân dyllau ynddynt;

  • Bagiau bwyd rhewgell plastig;

  • Deunydd lapio siocled/losin a phecynnau bisgedi;

  • Y rhwydi plastig a ddefnyddir i ddal ffrwythau a llysiau;

  • Pocedi plastig ar gyfer dalennau papur, a elwir yn aml yn ‘Poly Pockets’;

  • Polystyren.

Mae’n dda gwybod

Os byddwch yn dewis mynd â’ch eitemau plastig ystwyth i fan ailgylchu oddi cartref, gwnewch yn siŵr:

  • bod yr holl eitemau’n lân a heb fwyd arnynt, a

  • tynnwch y labeli gludiog oddi arnynt pan fo’n bosibl.

Nid yw bagiau compostadwy a bioddiraddadwy wedi’u dylunio i’w hailgylchu gyda phlastigion eraill, ac os ydynt yn cyrraedd y system ailgylchu, mae’n bosibl y byddant yn cael effaith negyddol ar ansawdd y deunydd eilgylch. Os bydd angen cael gwared ar yr eitemau hyn arnoch chi, ac nad oes gennych fin neu domen gompost, yna rhowch y rhain yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Eitemau tebyg

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon