Wrth i’r Gemau Olympaidd nesáu, mae ein cenedl fach ond nerthol eisoes yn cystadlu ar lwyfan y byd – nid mewn chwaraeon, ond mewn ailgylchu!
Gyda balchder, rydym wedi sicrhau’r fedal arian yn ddiweddar, sy’n golygu bod Cymru yn ail genedl ailgylchu orau’r byd, gydag dim ond Awstria o’n blaenau. Mae hynny’n eithaf trawiadol, yn tydi?
Ond nid ydym yn setlo am yr ail safle. Rydym yn anelu at gael y fedal aur, ac rydym angen eich help i gyrraedd yno. Yn union fel yn y Gemau Olympaidd, mae pob cyfraniad yn cyfrif! Dyma bum cam syml, ond pwerus, y gallwch chi ddechrau eu cymryd heddiw i helpu Cymru i ddringo i frig y podiwm ailgylchu byd-eang:
1. Peidiwch â thaflu bwyd i’r bin
Er mai dyma un o’r unig wledydd yn y byd lle mae pob awdurdod lleol yn darparu gwasanaeth casglu bwyd wythnosol, mae chwarter syfrdanol y bin sbwriel cyffredin yn cael ei lenwi â bwyd. Mae hyn yn gyfanswm enfawr o 110,000 tunnell y flwyddyn, sy'n ddigon i lenwi 3,300 o fysiau deulawr!
Rhoi trefn ar eich arferion gwastraff bwyd yw'r cam cyntaf y gallwch ei gymryd i sicrhau bod Cymru’n arwain y byd. Mae bwydydd fel tatws, bara, ffrwythau llysiau a chyw iâr dros ben yn cael eu gwastraffu'n gyffredin. Mae yna lawer o ffyrdd syml y gallwch chi eu defnyddio mewn prydau bwyd. Edrychwch ar ein ryseitiau symlsydd wedi'u cynllunio i arbed amser ac arian i chi. Pan na allwch ei fwyta, dylid ei ailgylchu, fel y gellir ei droi yn ynni adnewyddadwy. O blisgyn wy, coesynnau llysiau, esgyrn a bagiau te – gwnewch yn siŵr eich bod yn eu rhoi yn y bin bwyd, bob tro. Darganfyddwch fwy, neu sut i archebu bin bwyd am ddim.
2. Rhagori ar ailgylchu eich gwastraff cartref
Er bod dros 95% ohonom yng Nghymru yn ailgylchu'n rheolaidd, mae rhai eitemau y gellir eu hailgylchu yn cael eu rhoi yn y bin sbwriel o hyd. Mae ffoil, erosolau gwag, a gwastraff gardd yn dramgwyddwyr cyffredin, ac weithiau bydd hyd yn oed deunyddiau bob dydd y gellir eu hailgylchu, megis papur, cardbord a photeli gwydr yn cael eu methu hefyd.
Mae gwneud y peth iawn gyda’ch holl wastraff cartref yn ffordd syml ond pwerus o roi hwb i safle ailgylchu byd-eang Cymru a diogelu’r amgylchedd. Mae ailgylchu yn arbed adnoddau ac ynni gwerthfawr – a oeddech chi'n gwybod y gall ailgylchu dim ond un erosol arbed digon o ynni i bweru teledu am 8 awr?
Os nad ydych yn siŵr beth y gellir neu na ellir ei ailgylchu yn eich ardal, defnyddiwch ein Lleolydd Ailgylchu i'ch helpu i ailgylchu'n iawn, bob tro.
3. Meistroli'r tecstilau a nwyddau trydanol
Gellir gwerthu dillad a thecstilau sydd mewn cyflwr da, eu rhoi i elusen, eu trwsio neu eu gweddnewid. Gellir ailgylchu eitemau na ellir eu gwisgo mwyach mewn banciau tecstilau, a leolir yn aml mewn archfarchnadoedd a’ch canolfan ailgylchu leol, lle cânt eu hanfon i’w hailddefnyddio neu eu hailgylchu yn eitemau newydd, fel clustogau ar gyfer cadeiriau a seddi ceir, cadachau glanhau a blancedi diwydiannol.
Mae rhai awdurdodau lleol yn derbyn nwyddau trydanol bach fel rhan o'u cynlluniau ailgylchu cartref. Os yw eich awdurdod lleol chi’n gwneud hynny, efallai y bydd cyfarwyddiadau penodol ar gyfer casglu, megis rhoi eitemau trydanol bach mewn bag plastig clir wedi'i glymu i'ch bin ailgylchu. Mae'n well gwirio gyda'ch awdurdod lleol yn gyntaf. Gellir ailgylchu eitemau trydanol bach hefyd yn y ganolfan ailgylchu.
4. Ailgylchu ym mhobman: Yn y gwaith, wrth orffwys ac wrth hamddena
P'un a ydych yn y gwaith, yn gorffwyso neu’n hamddena, dylech allu dod o hyd i finiau ailgylchu ar gyfer metelau, plastig a chartonau, papur a cherdyn, gwydr a bwyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu defnyddio’n gywir, gan y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran creu Cymru wyrddach a’n helpu i gyrraedd y safle cyntaf o ran ailgylchu.
5. Croesawu siopa cynaliadwy: Dewis eitemau ail law
I ddod yn arweinydd y byd, rhaid i ni fynd y tu hwnt i ailgylchu. Bydd croesawu arferion siopa ecogyfeillgar nid yn unig yn ein helpu i hawlio’r safle cyntaf, bydd hefyd yn ein helpu i ragori ar darged Cymru o ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.
Mae dillad yn lle gwych i ddechrau. Y diwydiant ffasiwn yw trydydd cyfrannwr mwyaf y byd at allyriadau carbon. Fodd bynnag, mae dewis eitemau ail law yn sicrhau bod dillad yn cylchredeg yn hirach, gan fod o fudd i'r blaned, eich waled a'ch steil! Beth am siopa heb deimlo’n euog, dod o hyd i ddarnau unigryw, a sefyll allan.
Gyda nifer o opsiynau ar-lein megis Vinted, EBay, a Depop, ochr yn ochr â siopau ail law, a siopau elusen ar y Stryd Fawr, mae digon o ddewis ar gael i chi. Archwiliwch ein hawgrymiadau ar gyfer creu wardrob ar gyfer yr haf sy’n gyfeillgar i’r blaned a gwnewch ddatganiad cynaliadwy.