Mae dinasyddion Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu, a ni yw trydedd genedl orau’r byd am ailgylchu, ond mae angen dy help di arnom i gael Cymru i rif un.
8 Awgrym Ailgylchu Gwych
Mae mwy na 94% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd, ond mae ein hanner ni’n dal i beidio ag ailgylchu popeth posibl, felly mae mwy y gallwn ei wneud. Pe byddai pob un ohonom yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu un peth yn rhagor bob dydd, byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr.
Bydd yn ailgylchwr gwych, gan warchod y blaned a helpu Cymru i fod yn genedl ailgylchu orau’r byd drwy wneud y canlynol:
1. Os yw wedi’i wneud o blastig, ac yn siâp potel, ailgylcha fe
Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ailgylchu. Mewn gwirionedd, mae mwy na 90% ohonon ni’n ailgylchu poteli plastig, fel poteli diodydd, poteli nwyddau glanhau a photeli nwyddau ymolchi. Cofia’i wagio, ei wasgu a rhoi’r caead, y chwistrell neu’r pigyn arllwys ôl arno, cyn ailgylchu unrhyw boteli nwyddau glanhau.
2. Rho botiau plastig yn eu lle
Rho rinsiad sydyn i botiau a thybiau plastig cyn eu hailgylchu; cofia dynnu’r haen o blastig ystwyth. Does dim angen cael gwared ar bob tamaid o fwyd, ac mae eu rhoi yn y peiriant golchi llestri yn ei gorwneud hi – ac yn wastraff ynni!
3. Ailgylcha ganiau erosol o bob ystafell
Gellir ailgylchu eitemau metel ailgylchadwy fel erosolau dro ar ôl tro heb i’w hansawdd ddirywio. Cofia ailgylchu erosolau gwag o’r ystafell wely a’r ystafell ‘molchi, fel chwistrell gwallt, diaroglydd a gel eillio. Mae ailgylchu dim ond un erosol yn arbed digon o ynni i bweru sychwr gwallt am 30 munud.
4. Ailgylcha dy holl wastraff bwyd
Pan gaiff ei ailgylchu, caiff dy wastraff bwyd ei droi’n ynni adnewyddadwy. Mae ailgylchu dim ond un croen banana’n creu digon o ynni i wefru dau ffôn clyfar. Er bod y rhan fwyaf ohonon ni’n ailgylchu ein gwastraff bwyd, mae rhywfaint o wastraff bwyd yn cyrraedd y bin sbwriel o hyd. Cofia fod modd ailgylchu gwastraff fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, esgyrn a chrafion ffrwythau a llysiau.
5. Hir oes i dy gardbord
Galli ailddefnyddio bocsys cardbord mewn sawl ffordd: i storio pethau, i wneud tŷ bach twt i’r plantos, neu gellir eu defnyddio i gasglu dy ailgylchu fel nad oes raid iti eu gwahanu yn nes ymlaen! Fel arall, galli eu pasio ymlaen i deulu neu ffrindiau, neu i ysgolion lleol i’w defnyddio mewn prosiectau crefft.
6. Gwasga dy ganiau
Mae gwasgu caniau gwag yn arbed lle yn y bin ailgylchu ac yn eu gwneud yn fwy effeithlon i’w cludo.
7. Cofia ei wasgu
Cofia wasgu caniau a photeli plastig yn sydyn – bydd yn arbed lle yn dy gynhwysydd ailgylchu ac yn eu gwneud yn fwy effeithlon i’w cludo. Crycha eitemau ffoil at ei gilydd yn llac, i’w helpu i weithio eu ffordd drwy’r broses ddidoli heb fynd ar goll.
8. Os nad wyt ti’n siŵr, gwiria
Os nad wyt ti’n siŵr os, sut neu ymhle galli ailgylchu eitem, galli edrych a'n Leolydd Ailgylchu.
Rho dy god post yn y blwch ac fe ddaw’r ateb ar y sgrin.
Galli ddysgu mwy am yr ymgyrch gwych i helpu Cymru fod yn genedl ailgylchu orau’r byd yma www.byddwychailgylcha.org.uk