Sbectolau
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Sbectolau mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Sut i ailgylchu sbectolau
Cânt eu derbyn mewn rhai canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, holwch eich cyngor lleol yn gyntaf;
Gofynnwch i’ch optegydd a ydyn nhw’n casglu hen sbectolau. Mae llawer ohonynt yn eu casglu – cânt eu rhoi i elusennau sy’n eu hanfon ymlaen i wledydd sy’n datblygu;
Peidiwch â rhoi hen sbectolau yn eich bag neu fin ailgylchu i gael eu casglu o’ch cartref.
Mae’n dda gwybod
Mae rhai elusennau hefyd yn casglu sbectolau dieisiau, holwch eich elusen leol i weld a ydyn nhw’n eu derbyn.