Pecynnau Bwyd a Diod
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Pecynnau Bwyd a Diod mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Os na allwch fynd â’ch pecynnau bwyd a diod i fan ailgylchu oddi cartref a bod angen ichi gael gwared arnynt gartref, yna rhowch nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Pa becynnau bwyd a diod y gellir eu hailgylchu?
Gall y mathau o becynnau bwyd a diod a gaiff eu derbyn mewn mannau ailgylchu oddi cartref amrywio rhwng lleoliadau gwahanol. Er enghraifft, efallai y bydd un archfarchnad yn derbyn rhai mathau o becynnau bwyd a diod, ond siop arall yn gwrthod yr eitemau hynny. Felly, dilynwch y canllawiau a roddir gan y sefydliad sy’n rhedeg y man ailgylchu, os gwelwch yn dda.
Gallai’r pecynnau bwyd a diod a gaiff eu derbyn mewn mannau ailgylchu oddi cartref gynnwys:
Pecynnau fel codennau bwyd babanod, bwyd anifeiliaid anwes, bwydydd fel reis microdon, a hylif golchi dillad;
Ni ellir ailgylchu pecynnau coffi ar hyn o bryd a dylid eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.