Papur
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Papur mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa eitemau papur y gellir eu hailgylchu?
Papur glân heb saim, olew, llwch llachar na ffoil arno;
Papur cyfrifiadur a phapur wedi’i rwygo’n fân (mewn symiau bach);
Amlenni, yn cynnwys y rhai sydd â ffenestri arnynt;
Cylchgronau, llyfrynnau, pamffledi, post sothach, llyfrau teleffon a chatalogau;
Papurau newydd phapurau ategol.
Pa eitemau papur na ellir eu hailgylchu?
Papur brown – dylid ailgylchu hwn gyda chardbord gan ei fod yn achosi brychni brown mewn papur newydd;
Nwyddau hylendid e.e. cewynnau, weips neu dyweli mislif;
Nwyddau hylendid e.e. cewynnau, weips neu dyweli mislif;
Papur sydd wedi’i staenio gyda bwydydd, saim, paent neu faw, e.e. lluniau mae plant wedi’u paentio, papur gwrthsaim neu bapur pobi;
Hen hancesi papur a phapur cegin;
Papurau gludiog e.e. Nodiadau Post-it, labeli gludiog neu dâp papur;
Weips gwlyb, gwlân cotwm, padiau colur;
Papur wal;
Tocynnau trên, neu docynnau digwyddiadau, sy’n cynnwys stripiau metelaidd;
Cardiau crafu;
Ffotograffau a negatifau.
Mae’n dda gwybod
Deunydd lapio plastig oddi ar bapurau newydd a chylchgronau – gellir ailgylchu’r plastig hwn gyda bagiau plastig mewn archfarchnadoedd mwy.