Erosolau
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Erosolau mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Sut i ailgylchu erosolau
Sicrhewch fod erosolau yn hollol wag cyn eu hailgylchu;
Peidiwch â gwneud twll, gwasgu na fflatio caniau erosol;
Tynnwch unrhyw ddarnau rhydd neu hawdd i’w tynnu, fel y caead, rhowch y can erosol a’i gaead yn eich cynhwysydd ailgylchu ar gyfer metelau (neu ganiau) a rhowch unrhyw ddarnau eraill yn eich cynhwysydd ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Mae’n dda gwybod
Mae tua 60% o erosolau wedi’u gwneud o ddur gyda phlât tun ac mae tua 40% wedi’u gwneud o alwminiwm. Mae’r ddau fetel hyn yn ailgylchadwy.
Mae erosolau hefyd yn cynnwys cydrannau plastig a rwber bach yn cynnwys y caead, y falf a’r tiwb dipio, a caiff y rhain eu tynnu yn y broses ailgylchu.
Pe byddai pawb yn y Deyrnas Unedig yn ailgylchu un can gwag o ddiaroglydd aer, byddai’n arbed digon o ynni i redeg set deledu mewn 273,000 o gartrefi am flwyddyn!