Mae compostio yn broses naturiol, rad sy’n troi eich gwastraff o’r gegin a’r ardd yn fwyd gwerthfawr a maethlon i’ch gardd. Mae’n hawdd ei wneud ac yn hawdd ei ddefnyddio.
Pam compostio?
I leihau eich effaith ar yr amgylchedd
Mae llawer o resymau da dros gompostio. Mae’n arbed arian, yn arbed adnoddau, gall helpu i wella eich pridd, a gall leihau eich effaith ar yr amgylchedd.
I gyfoethogi eich pridd a bwydo eich planhigion
Mae eich compost yn fwyd llawn maetholion i’ch gardd ac fe wnaiff helpu i wella strwythur y pridd, cynnal lefelau gwlybaniaeth, a chadw cydbwysedd pH eich pridd dan reolaeth, gan helpu hefyd i atal heintiau planhigion.
Bydd yn cynnwys popeth y mae ei angen ar eich planhigion, yn cynnwys nitrogen, ffosfforws a photasiwm, a bydd yn helpu i weithio fel byffer ar briddoedd sy’n asidig neu alcalinaidd iawn.
Mae compost yn gwella cyflwr y pridd a bydd eich planhigion a’ch blodau wrth eu boddau!
Sut i ddechrau compostio
- 1
Gallwch brynu biniau compost o ganolfannau garddio, siopau DIY a gwerthwyr ar-lein neu gallwch ddefnyddio cynhwysydd fel hen fin sbwriel neu focs plastig a rhoi tyllau bychain yn y caead a’r ochrau i adael ocsigen i mewn;
- 2
Fel arall, gallwch greu twmpath compost heb gynhwysydd;
- 3
Dewch o hyd i’r safle cywir – yn ddelfrydol, rhowch eich bin neu dwmpath mewn lle gweddol heulog ar bridd noeth. Dewiswch rywle y gallwch ychwanegu cynhwysion ato’n hawdd, yn ogystal â chael y compost allan yn hawdd;
- 4
Casglwch y cynhwysion cywir – cadwch bopeth o grwyn llysiau a ffrwythau i fagiau te, tiwbiau papur toiled, bocsys grawnfwyd a phlisg wyau i’w rhoi yn eich bin compost. Ni ddylech fyth gompostio bwyd wedi’i goginio, nac ychwaith gig neu bysgod;
- 5
Llenwch ef – rhowch yr eitemau hyn, ynghyd â’ch gwastraff o’r ardd, yn eich bin compost. Cymysgedd 50/50 o bethau gwyrdd a phethau brown yw’r rysáit ddelfrydol ar gyfer compost da;
- 6
Arhoswch am gyfnod – mae’n cymryd rhwng naw a 12 mis i’ch compost fod yn barod i’w ddefnyddio. Daliwch ati i ychwanegu pethau gwyrdd a brown ar ben eich compost;
- 7
Gwiriwch a yw’n barod – unwaith bydd eich compost wedi troi’n ddeunydd tywyll, briwsionllyd, sy’n edrych fel pridd llaith a thrwchus, ac mae arogl priddlyd, ffres arno, byddwch yn gwybod ei fod yn barod i’w ddefnyddio;
- 8
Tynnwch y compost allan – codwch ychydig ar y bin, neu agor y drws bach ar ei waelod, a thynnu’r compost ffres allan gyda fforch, rhaw neu drywel garddio. Os mai twmpath compost sydd gennych, mae’n hawdd ichi gyrraedd eich compost yn barod i’w daenu;
- 9
Ewch ati i’w daenu – peidiwch â phoeni os bydd eich compost yn edrych braidd yn gnapiog gyda brigau a phlisg wyau ynddo, mae hyn yn gwbl normal;
- 10
Defnyddiwch y compost i gyfoethogi borderi a lleiniau llysiau, i blannu cynwysyddion patio, neu i fwydo’ch lawnt.
Mae’n dda gwybod
A wyddoch chi, gall compostio gartref am un flwyddyn arbed nwyon cynhesu byd-eang sy’n gyfatebol â’r holl CO2 mae berwi eich tegell yn ei achosi’n flynyddol, neu gymaint ag y mae eich peiriant golchi’n ei gynhyrchu mewn tri mis?