Fel cenedl, mae'r DU yn defnyddio tua 60,000 o dunelli o gartonau bob blwyddyn – mae hynny’n tua’r un faint â phwysau 349 o forfilod glas! Y newyddion da yw ei bod yn dod yn llawer haws ailgylchu cartonau ac mae mwy a mwy o gynghorau lleol yn eu casglu wrth ymyl y ffordd.
Pam mae’n bwysig ailgylchu cartonau?
Mae ailgylchu cartonau’n helpu i arbed adnoddau naturiol ac mae’n lleihau’r gwastraff a gaiff ei losgi neu ei anfon i dirlenwi.
Sut caiff cartonau eu hailgylchu?
Mae cartonau wedi’u gwneud o 70-90% bwrdd papur, sy’n ailgylchadwy yn union fel unrhyw bapur neu gardbord arall. Mae leinin cartonau wedi’i wneud o blastig ac alwminiwm, ac mae angen ei dynnu oddi wrth y papur cyn y gellir ei ailgylchu.
Ar ôl cael ei gasglu, caiff cartonau eu didoli ar wahân i ddeunyddiau ailgylchadwy eraill. Ar ôl tynnu’r deunyddiau leinio, caiff y papur ei gymysgu â dŵr a’i droi’n fwydion am 20 munud i’w dorri i lawr yn sylwedd ffibrog. Yna, caiff ei sychu, ei rolio allan a’i droi’n nwyddau newydd.
Sut caiff cartonau eilgylch eu defnyddio?
Unwaith mae cartonau wedi cael eu hailgylchu yn rholiau o ddeunydd newydd, gellir ei droi’n nwyddau newydd fel tiwbiau siocled poeth a grefi.
Gellir troi’r plastig a’r alwminiwm o ddeunydd leinin cartonau hefyd yn nwyddau fel dodrefn i’r ardd, matiau chwarae a deunyddiau adeiladu.
Sut i ailgylchu cartonau
Er bod nifer gynyddol o gynghorau lleol nawr yn gallu derbyn cartonau yn eu casgliadau wrth ymyl y ffordd, mae’n bwysig ichi wirio’n lleol i weld beth mae eich cyngor lleol yn ei dderbyn gan ddefnyddio ein teclyn Lleolydd Ailgylchu isod.
Os oes casgliad cartonau wrth ymyl y ffordd ar gael i chi, cofiwch eu gwasgu cyn eu rhoi yn eich bin ailgylchu. Mae gwasgu eich caniau’n golygu y byddan nhw’n cymryd hyd at draean yn llai o le yn y cerbyd casglu, sy’n gwneud eich casgliadau’n fwy effeithiol ac yn lleihau’r nifer o gerbydau ar y ffyrdd.