Erioed wedi meddwl am ble eich gwastraff yn mynd ar ôl ailgylchu? Ewch i Fy Ailgylchu Cymru, gwefan newydd a ariennir gan Llywodraeth Cymru a WRAP Cymru.
I ddarganfod beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu unwaith y caiff ei gasglu gan eich cyngor lleol, ewch i Fy Ailgylchu Cymru ble gallwch bori drwy gynghorau lleol Cymru a gweld beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu ledled y Deyrnas Unedig a hyd yn oed o amgylch y byd.
Ariennir Fy Ailgylchu Cymru gan Lywodraeth Cymru a’r arbenigwyr cynaliadwyedd WRAP Cymru i roi gwybodaeth ichi ynghylch yr hyn sy’n digwydd i’ch ailgylchu. Mae’r safle’n dangos faint o ailgylchu mae eich cyngor lleol yn ei gasglu bob blwyddyn, a’i dynged yn ôl adroddiadau.
Darganfod sut caiff eich ailgylchu ei gasglu, ei ddidoli a’i brosesu.