Helpa i gael Cymru i rif un
Yng Nghymru, mae mwy na 94% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd, sy’n gwneud ein hymdrechion ailgylchu’n fwy gwych nag erioed. Dim rhyfedd mai Cymru yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu. Ond wnawn ni ddim rhoi’r gorau iddi nawr. Galli helpu Cymru gyrraedd y brig a chwarae dy ran dros dy gymuned a’r amgylchedd drwy daro deuddeg gyda’r tri ymddygiad ailgylchu hwn:
Ailgylcha dy wastraff bwyd i greu ynni
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd, ond nid ydym yn ailgylchu pob eitem, bob tro. Drwy ailgylchu gwastraff bwyd fel crafion, plisg wyau, esgyrn, bagiau te a gwaddodion coffi, rwyt ti nid yn unig yn chwarae dy ran mewn helpu Cymru i fod ar y blaen yn fyd-eang, rwyt ti hefyd yn gwarchod y blaned drwy greu ynni. Yng Nghymru, pan gaiff gwastraff bwyd ei ailgylchu, caiff ei droi’n ynni adnewyddadwy. Byddai dim ond 1 croen banana wedi’i ailgylchu’n gwefru dau ffôn clyfar. Dysga sut
Ailgylcha dy boteli nwyddau ymolchi plastig
Bydd Wych yn yr ystafell ’molchi drwy ymuno â’r 90% ohonom sy’n ailgylchu poteli gwag o’r ystafell ’molchi. Os nad wyt yn eu hailddefnyddio, ailgylcha blastigion o’r ystafell ’molchi, fel poteli siampŵ, cyflyrydd gwallt, sebon dwylo, gel cawod a nwyddau glanhau i helpu Cymru chwalu ei darged ailgylchu nesaf! Diogela ein hadnoddau naturiol ac arbed ynni ar yr un pryd. Mae ailgylchu dim ond 1 potel siampŵ’n arbed digon o ynni i wefru 4 iPad yn llawn!
Helpa dy ganiau bwyd a diod fyw am byth
Yng Nghymru, rydyn ni’n ailgylchwyr gwych o ran ailgylchu ein caniau bwyd a diodydd; mae 92% ohonom yn eu hailgylchu. Nawr dyna rywbeth gwych i’w wneud, gan fod modd ailgylchu metel dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio. Mae ailgylchu 1 can bwyd neu ddiod gwag yn arbed digon o ynni i bweru cawod am fwy na 5 munud.