Mae 94% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu’n rheolaidd, ac mae mwy na’n hanner ni’n ailgylchu mwy yn y flwyddyn ddiwethaf nag erioed o’r blaen. Er bod gan lawer o ohonom arferion ailgylchu sy’n gweithio i ni, dangosodd ein harolwg ailgylchu flynyddol bod rhai eitemau cyffredin nad ydynt yn cael eu hailgylchu er bod modd gwneud. Gall gwneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu eitemau o bob rhan o’r tŷ bob tro wneud gwahaniaeth mawr.
Ailgylchu o’r ystafell ’molchi
Mae llawer o eitemau yn yr ystafell ’molchi yn aros i gael eu hailgylchu.
Beth am gael bin ailgylchu ar wahân yn yr ystafell ’molchi neu ailddefnyddio basged neu focs ar gyfer eich holl erosolau, tiwbiau papur toiled a photeli glanhau. Gallech hyd yn oed hongian bag ailgylchu ar gefn drws yr ystafell ’molchi.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu poteli siampŵ a chyflyrydd gwallt, ond cofiwch ailgylchu’r eitemau canlynol hefyd unwaith byddan nhw’n wag:
Cynwysyddion gel cawod – rinsiwch yr eitemau a rhoi’r caead yn ôl arnynt;
Bocsys past dannedd - fflatiwch;
Tiwbiau papur toiled - fflatiwch;
Poteli hylif glanhau a channydd – rinsiwch a rhowch y chwistrelli neu gaeadau’n ôl arnynt;
Diaroglyddion, chwistrell corff ac erosolau chwistrell gwallt;
Ewyn eillio;
Poteli eli croen;
Poteli sebon dwylo – rinsiwch a rhowch y caeadau a’r chwistrelli yn ôl arnynt, gan fod y rhain yn cael eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu.
Tynnwch unrhyw bympiau oddi ar boteli nwyddau gofal croen a nwyddau ymolchi a’u rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Ailgylchu o’r ystafell wely
A wyddoch chi, pe byddai pawb yn y Deyrnas Unedig yn ailgylchu un can erosol gwag, byddai’n arbed digon o ynni i redeg set deledu mewn 273,000 o gartrefi am flwyddyn!
Isod mae rhai eitemau y gallech gadw golwg amdanynt yn yr ystafell wely:
Rhaid i bob erosol diaroglydd a chwistrell gwallt fod yn wag a rhaid tynnu’r holl gaeadau plastig a’u rhoi gyda’ch plastigion cymysg;
Bocsys hancesi papur gwag – tynnu unrhyw ddarnau plastig a’u fflatio;
Hen gylchgronau.
Ailgylchu o’r ystafell fyw
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu papurau newydd a chylchgronau, ac mewn llai na 7 diwrnod, gallech fod yn darllen eich hoff bapur newydd ar bapur rydych chi newydd ei ailgylchu!
Mae eitemau eraill i’w hailgylchu y gallech ddod o hyd iddynt yn yr ystafell fyw yn cynnwys:
Erosolau polish dodrefn a diaroglyddion aer – tynnwch y caeadau plastig a’u rhoi gyda’ch plastigion cymysg;
Deunydd pacio cardbord o nwyddau a brynwyd ar-lein – tynnwch unrhyw dâp pacio a fflatiwch y cardbord;
Amlenni.
Ailgylchu o’r gegin
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cofio ailgylchu yn y gegin ac yn aml mae gennym ein harferion ein hunain o ran gwahanu eitemau ailgylchadwy yn yr ystafell hon.
Fodd bynnag, dyma rai o’r eitemau y gellir ei hailgylchu y gallech anghofio amdanynt:
Mae’n rhaid i holl erosolau, tuniau polish dodrefn a diaroglyddion aer fod yn wag a’r caeadau plastig wedi’u tynnu i ffwrdd a’u rhoi gyda’ch plastigion cymysg;
Poteli cannydd – rinsiwch a rhowch y caead yn ôl arnynt;
Bocsys tabledi peiriant golchi llestri a bocsys ffoil cegin neu haenen lynu – fflatiwch y rhain;
Ffoil – heb fwyd, saim neu olew arno;
Casys pasteiod ffoil neu dybiau tecawê - heb fwyd, saim neu olew arnynt;
Tiwbiau papur cegin;
Poteli hylif glanhau arwynebau – rinsiwch a rhowch y chwistrelli a chaeadau’n ôl arnynt;
Poteli hylif golchi llestri – gwagiwch, rinsiwch a rhowch y caead yn ôl arnynt;
Poteli diod, tybiau a photiau plastig;
Poteli sebon dwylo – rinsiwch a rhowch y caeadau a’r chwistrelli yn ôl arnynt, gan fod y rhain yn cael eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu.