Mae tymor y bwganod yn nesáu, ac fel rhan o’n hymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha, rydyn ni’n taflu goleuni ar dynged ein pwmpenni. Bob blwyddyn, mae nifer fawr iawn o’n pwmpenni druan yn mynd i’r bin sbwriel heb gael eu bwyta ar ôl iddynt orffen eu gwaith o oleuo carreg y drws i ni ar 31 Hydref – ond wyddost ti y byddai ailgylchu croen dim ond un bwmpen yn creu digon o drydan i bweru cartref cyffredin am awr? Dyna ystadegyn dychrynllyd am botensial y pŵer sy’n cael ei wastraffu!
Rydyn ni’n wych am ailgylchu yma yng Nghymru, a ni yw trydedd genedl orau’r byd am ailgylchu, ond mae mwy fyth y gallwn ei wneud wrth achub ein bwyd rhag y bin – ac nid yn ystod Calan Gaeaf yn unig! Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod y dylai gwastraff bwyd fynd i’r cadi cegin, ond bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog o hyd. Mae hyn yn cyfrif am 110,000 tunnell y flwyddyn, sy’n swm enfawr, ac yn ddigon i lenwi 3,300 o fysiau deulawr! Y gwir syfrdanol yw y gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf o hwn.
Dyna pam, ar gyfer Calan Gaeaf eleni, rydyn ni’n galw ar drigolion Cymru i roi gorau i fwydo eu biniau sbwriel a dilyn y syniadau syml hyn yn hytrach...
Bwyta popeth sy’n fwytadwy
Does dim angen bwydo bwystfil y bin, pan fo cymaint o ffyrdd o wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei fwyta! Tro dy bwmpen Calan Gaeaf o dric i drît drwy drawsnewid y rhannau bwytadwy yn brydau a phwdinau blasus.
Mae cymaint y galli ei wneud i achub dy bwmpen rhag y bin, yn cynnwys pei pwmpen Americanaidd neu risoto pwmpen cynhesol. Ac mae’r hadau seimllyd hynny’r un mor werthfawr – cadwa nhw i’w tostio a’u hychwanegu at granola neu i’w pobi mewn danteithion blasus fel y brownis hadau pwmpen hyn. Dyma ragor o syniadau ar gyfer bwyta pwmpenni Calan Gaeaf.
Wrth gwrs, mae’r egwyddorion hydrefol hyn yr un mor wir gydol y flwyddyn. P’un ai gwledda ar yr hyn sydd dros ben o’r cinio dydd Sul ar gyfer cinio’r diwrnod wedyn wyt ti, neu’n troi’r tatws olaf sy’n llechu yng nghefn y cwpwrdd yn sglodion trwchus llwythog blasus i’r teulu oll eu mwynhau, mae dod o hyd i ffyrdd creadigol o ddefnyddio bwyd sy’n nesáu at ddiwedd ei oes yn flasus, yn llawn boddhad ac yn arbed arian!
Gwna’r cadi’n ddewis diofyn ar gyfer bwyd anfwytadwy
Calan Gaeaf yw’r un adeg o’r flwyddyn pan fyddwn yn croesawu bwydydd afiach, dychrynllyd! Llygaid wedi’u gwneud o litshis, mwydod sbageti, bysedd gwrachod – beth bynnag y galli ei ddychmygu! Ond tra’r ydan ni’n trafod bwydydd afiach, rhaid inni gofio’r mater bach o gael gwared ar y stwff na allwn ni ei fwyta am ba bynnag reswm. O fagiau te i esgyrn neu blisg wyau, a hyd yn oed bwyd wedi llwydo, dylid rhoi bob tamaid – waeth pa mor ych a fi – yn y cadi gwastraff bwyd i’w ailgylchu, er mwyn iddo allu cael ei droi’n rhywbeth defnyddiol: ynni!
Gan aros ar thema Calan Gaeaf, gallai ailgylchu croen dim ond un bwmpen bweru teledu’n ddigon hir i wylio Hocus Pocus a’r Addams Family. Byddai ailgylchu pedwar croen banana’n creu digon o ynni i wefru llechen ddigidol yn barod i ddilyn rysetiau Calan Gaeaf, a byddai ailgylchu pum bag te yn creu digon i wefru ffôn clyfar, er mwyn iti gael anfon dy wahoddiadau parti Calan Gaeaf. Ac yn well fyth, byddai ailgylchu un llond cadi o wastraff bwyd yn creu digon o ynni i bweru dy gartref am awr!
Gwylia’r fideo yma i gael gwybod mwy am beth sy’n digwydd i dy wastraff bwyd pan gaiff ei ailgylchu:
Osgoi’r ‘ych a fi’
Calan Gaeaf neu beidio, does neb yn hoff o arogleuon amheus neu ollyngiadau brawychus. Os wyt ti’n poeni mai’r cadi gwastraff bwyd sydd ar fai am y drewdod, efallai y byddet yn synnu clywed bod ailgylchu dy wastraff bwyd yn creu llai o arogleuon mewn gwirionedd, ac mae’n lanach na’i roi yn y bin! Y tric yw cadw’r cadi’n lân a ffres drwy ei wagio’n rheolaidd, defnyddio bag leinio, ac osgoi hylifau. Beth am gael y teulu cyfan i wylio tips gwych Matt Pritchard yn y fideo isod!
Dyma lawer mwy o bethau i’w dysgu am sut i ailgylchu gwastraff bwyd – Bydd Wych dros Galan Gaeaf eleni, a gad i ni wybod beth fyddi di’n ei wneud gyda dy bwmpenni draw ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol!
Trwy roi eich cod post yn ein teclyn Lleolydd Ailgylchu, gallwch ddarganfod yn union beth mae eich cyngor lleol yn ei dderbyn yn eu casgliad ailgylchu – fe wnawn ni hyd yn oed ddweud wrthych chi ym mha fin neu fag i’w roi!
Gallwch hefyd wirio a oes gennych chi gasgliad gwastraff o’r ardd a dod o hyd i fanylion cysylltu eich cyngor lleol, rhag ofn bod gennych ymholiadau am ddyddiau casglu neu i gael biniau yn lle hen rai.