Fe ŵyr pawb fod pobl Cymru yn ailgylchwyr gwych. Mae nifer anhygoel – 95% ohonom – yn ailgylchu’n rheolaidd nawr, wedi codi o 92% y llynedd. Ni yw trydedd genedl orau’r byd, ac yn anelu i gyrraedd rhif 1. Ond mae llawer mwy y gallwn ei wneud i helpu Cymru gyrraedd y brig.
Ar hyn o bryd, y rhwystr mwyaf i ailgylchu yng Nghymru yw dryswch ynghylch beth y gellir – ac na ellir – ei ailgylchu.
Mae ymchwil newydd yn dangos bod 72% ohonom, er gwaethaf ein hymdrechion, yn dal i roi o leiaf un eitem yn y bin sbwriel pan ellid ei ailgylchu. Ac mae 83% ohonom yn taflu pethau i’r ailgylchu na ellir eu hailgylchu o gartref mewn gwirionedd. Mae hyn yn halogi’r ailgylchu a gaiff ei gasglu, sy’n lleihau ei ansawdd a’i werth.
Gwyddom fod y rhan fwyaf o bobl Cymru eisiau gwneud y peth iawn. Gall pawb chwarae eu rhan a helpu i gael Cymru i Rif 1 drwy roi’r 10 eitem fwyaf dryslyd yn y bin cywir:
1. Poteli persawr a phersawr eillio gwag?
Ailgylchu o gartref (ond gwiriwch yn lleol)
Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn casglu poteli persawr a phersawr eillio gwag fel rhan o’u gwasanaeth lleol, ond dim ond 47% o bobl sy’n eu hailgylchu yng Nghymru.
Mae gwneud eitemau gwydr o ddeunyddiau eilgylch yn defnyddio tua 95% yn llai o ynni o’i gymharu â gwneud potel wydr newydd sbon. Chwaraewch eich rhan drwy ailgylchu poteli persawr a phersawr eillio gwag.
2. Gwydrau yfed?
Nid gartref
Ni ellir ailgylchu gwydrau yfed gan ddefnyddio’r un broses a ddefnyddir ar gyfer poteli a jariau gwydr cyffredin, sy’n golygu na ellir eu casglu i’w hailgylchu gyda’i gilydd. Gwnewch yn siŵr fod gwydr wedi torri yn cael ei lapio’n ddiogel cyn ei roi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Fel arall, gellir ailgylchu gwydr wedi torri gyda ‘rwbel’ yn y rhan fwyaf o ganolfannau ailgylchu lleol.
Os oes gennych chi unrhyw wydrau yfed nad ydych mo’u heisiau mwyach ond eu bod mewn cyflwr da, ewch â nhw i siop elusen leol.
3. Pecynnau ffoil bwyd a diodydd?
Nid gartref
Ni ellir ailgylchu pecynnau ffoil bwyd a diodydd fel rhai bwyd babanod, reis microdon a bwyd anifeiliaid anwes gartref ar hyn o bryd. Pam? Cânt eu gwneud o gymysgedd o wahanol ddeunyddiau, a all gynnwys metel alwminiwm, ffibrau a phlastigion, sy’n eu gwneud yn anodd eu hailgylchu ar hyn o bryd.
Gellir ailgylchu rhai o’r eitemau hyn yn lleoliadau blaen siop rhai archfarchnadoedd. Ewch i’n Lleolydd Ailgylchu i ddod o hyd i’ch cyfleuster agosaf.
4. Cewynnau tafladwy?
Gwiriwch yn lleol
Mae llawer o gynghorau yng Nghymru’n cynnig casgliad ar gyfer cewynnau tafladwy a phadiau anymataliaeth. Gellir ailgylchu’r gwahanol ddeunyddiau sy’n ffurfio’r eitemau hyn i wneud amrywiaeth o nwyddau newydd yn cynnwys byrddau ffibr a phaneli acwstig ar gyfer lloriau a waliau, ac fel deunydd peirianyddol a ddefnyddir ar wynebau ffyrdd.
I ddarganfod a yw eich cyngor lleol yn darparu gwasanaeth, ewch i’n Lleolydd Ailgylchu.
5. Bagiau a deunydd lapio plastig?
Gwiriwch yn lleol
Nid yw’r rhan fwyaf o gynghorau’n derbyn bagiau plastig ac eitemau lapio fel bagiau parseli, bagiau bara a bagiau bwydydd rhewgell gan na ellir eu hailgylchu yn yr un modd â photeli, potiau a thybiau plastig felly gwiriwch yn lleol yn gyntaf.
Mae’r rhain hefyd yn cael ei derbyn yn lleoliadau blaen siop rhai archfarchnadoedd. Ewch i’n Lleolydd Ailgylchu i ddod o hyd i’ch cyfleuster agosaf.
6. Ffoil?
Ailgylchu o gartref
Gellir ailgylchu unrhyw ffoil glân ac mae 69% o ddinasyddion Cymru’n ei ailgylchu eisoes. Gwagiwch, rinsiwch a chrychwch eitemau ffoil cyn eu rhoi yn eich ailgylchu, gan y bydd hynny’n helpu iddyn nhw fynd drwy’r broses ddidoli heb fynd ar goll.
7. Teganau plastig?
Nid gartref
Mae teganau plastig wedi’u gwneud o ddeunydd a elwir yn ‘blastig caled’, ac ni ellir ei ailgylchu yn yr un mod â deunydd pacio plastig fel poteli diodydd neu dybiau marjarîn.
Os oes gennych chi deganau plastig sydd â bywyd ar ôl ynddynt o hyd, ewch â nhw i siop elusen neu rhowch nhw i grŵp cymunedol lleol. Os yw eich teganau a gemau plastig y tu hwnt i’w trwsio, efallai y gellir ailgylchu rhai o’r darnau, fel y batris a phecynnau batris, os byddwch wedi’u datgymalu.
Gellir mynd â theganau neu gemau plastig wedi malu i’ch canolfan ailgylchu hefyd, a’u hailgylchu gyda ‘phlastigion caled’.
8. Tiwbiau past dannedd?
Nid gartref
Mae tiwbiau past dannedd yn aml wedi’u gwneud o wahanol fathau o blastig, ynghyd â haenen fetel, sy’n golygu ei bod yn anodd eu hailgylchu ar hyn o bryd. Er bod rhai tiwbiau’n dweud y gellir eu hailgylchu, mae’n anodd i griwiau adnabod y rhai y gellir eu hailgylchu a’r rhai na ellir eu hailgylchu wrth iddyn nhw gasglu eich ailgylchu, felly mae’n well i ansawdd cyffredinol eich ailgylchu os nad ydych chi’n ailgylchu eich tiwbiau past dannedd gartref. Mae’n bosibl y cânt eu derbyn yn lleoliadau blaen siop rhai archfarchnadoedd. Ewch i’n Lleolydd Ailgylchu i ddod o hyd i’ch cyfleuster agosaf.
9. Erosolau?
Ailgylchu gartref (ond gwiriwch yn lleol)
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n derbyn caniau erosol gwag fel diaroglydd, siampŵ sych a chyflyrydd aer fel rhan o’u gwasanaeth casglu. Gellir ailgylchu metel yn ddiddiwedd, hynny yw, gellir ei ailgylchu dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio o gwbl, felly sicrhewch eich bod yn helpu i arbed ein hadnoddau gwerthfawr drwy ailgylchu eich holl ganiau erosol gwag.
10. Gwydr coginio fel Pyrex?
Nid gartref
Er mai math o wydr yw llestri coginio Pyrex, mae’r gwydr hwn wedi cael ei drin yn arbennig yn ystod y broses o’i gynhyrchu i wrthsefyll tymereddau uchel, sy’n golygu na ellir ei ailgylchu o gartref.
Os bydd angen ichi gael gwared â gwydr coginio wedi torri o gartref, lapiwch ef yn ddiogel mewn hen bapur newydd neu bapur cegin, neu ei fagio’n ddwbl cyn ei roi yn eich bin gwastraff na ellir ei ailgylchu. Fel arall, gellir ei ailgylchu gyda ‘rwbel’ yn y rhan fwyaf o ganolfannau ailgylchu lleol.
Os nad yw eich gwydr coginio wedi torri – a’ch bod yn cael gwared arno am nad oes ei angen neu ei eisiau arnoch mwyach – beth am fynd ag ef i siop elusen leol i rywun arall gael ei ddefnyddio?