Mae’r Deyrnas Unedig yn cael gwared ag oddeutu tri biliwn o gewynnau untro (neu ‘gewynnau tafladwy’) bob blwyddyn. Er bod angen prynu a golchi cewynnau go iawn, gallant arbed arian ichi.
Manteision defnyddio cewynnau go iawn
Gallai defnyddio cewynnau go iawn yn lle cewynnau untro arbed rhwng £200 a £500 ichi dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner ar gyfer eich babi cyntaf, a mwy fyth os byddwch yn eu defnyddio ar blant eraill yn eich teulu;
Drwy ddefnyddio cewynnau go iawn, byddwch yn chwarae eich rhan dros yr amgylchedd. Erbyn i’ch babi fod wedi dysgu defnyddio’r toiled, mae’n debygol y byddwch wedi prynu a defnyddio rhwng 4,000 a 6,000 o gewynnau untro, ond efallai mai dim ond tua 20 i 30 o gewynnau go iawn y byddai angen ichi eu prynu ar gyfer yr un cyfnod. Golyga hyn nid yn unig eich bod yn creu llai o wastraff na ellir ei ailgylchu, ond hefyd byddwch wedi atal yr eitemau untro hyn rhag gorfod cael eu cynhyrchu yn y lle cyntaf;
Mae cewynnau go iawn modern yn hawdd eu defnyddio ac ar gael mewn amrywiaeth o siapiau a steiliau, gyda felcro neu fotymau popio. Dim mwy o blygu a phinnau diogelwch!
Bydd defnyddio cewynnau go iawn hefyd yn rhoi mwy o le ichi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Dim mwy o gewynnau untro’n hawlio gormod o le;
Gellir golchi cewynnau go iawn ar 60°C yn eich peiriant golchi gartref.
Mae’n dda gwybod
Mae rhai cynghorau yng Nghymru’n cynnig cynllun cewynnau go iawn i’w preswylwyr, sy’n cynnig cymorth a chyngor ichi ar sut ac ymhle i brynu’r eitemau hyn, yn cynnwys cynigion arbennig. Chwiliwch am ‘cewynnau go iawn’ ar wefan eich cyngor lleol i weld a oes cynllun cewynnau go iawn yn eich ardal chi. Drwy newid o gewynnau untro i gewynnau go iawn, gall teulu cyffredin gyda babis haneru faint o wastraff y mae’n ei greu.