Naw oed oedd Melba pan gyfarfu â’r ddarpar Frenhines Elizabeth II.
- Erthygl gwadd gan Henry Irving, Leeds Beckett University
1943 oedd y flwyddyn, ac roedd hi wedi teithio i ddigwyddiad arbennig yng Nghaerdydd i dderbyn gwobr gan y dywysoges.Rhoddwyd holl waith William Shakespeare i Melba, a oedd yn ddarllenwraig frwd, ynghyd â thystysgrif wedi’i fframio ar gyfer ei hysgol.Roedd ganddi hi rodd i’r frenhines hefyd: llyfr unigryw am ailgylchu, wedi’i ysgrifennu gan blant ysgol o Gymru.
Roedd Melba wedi ennill cystadleuaeth a gynlluniwyd i ddangos pam roedd ailgylchu yn bwysig yn ystod y rhyfel.Roedd hi wedi ysgrifennu traethawd yn galw ar blant i ‘helpu yn hytrach na dim ond gwylio’.Fe eglurodd fod ailgylchu yn arbed deunyddiau ac yn caniatáu i longau gario eitemau mwy defnyddiol.Beth allai plant ei wneud?Wel, gofynnodd Melba iddyn nhw wneud yn siŵr bod eu hailgylchu’n cael ei wahanu’n iawn.Roedd hi’n eglur: ‘Rhaid inni beidio â gwastraffu’r tamaid lleiaf o rwber, y darn lleiaf o ddeunydd, na’r asgwrn mwyaf tila’.
Roedd ailgylchu yn rhan bwysig o fywyd yn yr Ail Ryfel Byd.Fel eglurodd Melba, roedd Prydain yn wynebu prinder llawer o ddeunyddiau crai oherwydd ymosodiadau’r gelyn ar longau cyflenwi nwyddau.Ymateb y llywodraeth oedd gofyn i bobl wahanu papur, carpiau, tuniau, esgyrn, rwber a gwastraff bwyd o’u biniau sbwriel.Prin iawn oedd y rhai a wnâi hyn cyn y rhyfel.Ond, erbyn i Melba ysgrifennu ei thraethawd, roedd tua 80 y cant o aelwydydd yn ailgylchu rhywbeth o leiaf.
Rwy’n gweithio gyda WRAP i weld pa wersi sydd gan yr hanes hwn i’w ddysgu i ni heddiw.Rwyf hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â hen ysgol Melba i sgwrsio gyda’i disgyblion presennol.Fe rannais stori Melba gyda grŵp o blant deg ac un mlwydd ar ddeg oed fel rhan o ddiwrnod o weithgareddau ailgylchu.Fe wnaethant ddarllen ei thraethawd a dysgu mwy am y gwahanol resymau dros ailgylchu yn y 1940au.Fe wnaethant hefyd ddylunio cyfres o bosteri wedi’u hysbrydoli gan y negeseuon cyfnod rhyfel y tyfodd Melba i fyny o’u cwmpas.
Roedd hon yn llawer mwy na gwers hanes.Roedd y plant yn gallu cysylltu’r hyn a oedd yn digwydd 80 blynedd yn ôl gyda’r hyn sy’n digwydd heddiw.Mae ailgylchu’n dal i arbed deunyddiau. Ond nawr mae gennym fwy o ddiddordeb mewn arbed ynni na diogelu llongau.Fe wnaethom ddysgu hefyd sut mae gwastraff bwyd yng Nghymru yn cael ei ailgylchu i greu trydan, sy’n wahanol iawn i gael ei ddefnyddio fel bwyd moch yn ystod yr Ail Ryfel Byd!
Wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, fe wnaethom sylweddoli rhywbeth pwysig iawn.Nid yw’r ffaith bod gan groen banana’r pŵer i wefru dau ffôn os cânt eu hailgylchu’n iawn yn rhy wahanol i’r ffordd roedd esgyrn yn cael eu hailgylchu i wneud ffrwydron yn y 1940au.Y peth yw na allwn ni bob amser ddychmygu mor ddefnyddiol y gall ein sbwriel fod.Roedd Melba yn deall hyn yn ystod y rhyfel, ac mae’r plant y bues i’n siarad gyda nhw yn sylweddoli hyn heddiw.Nid yw ei thystysgrif hi gan yr ysgol mwyach, ond mae etifeddiaeth Melba yn amlwg yn dal yn fyw.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd y plant yn cael eu gwahodd i ymuno â’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych.
About the author
Hanesydd yn Leeds Beckett University yw Henry Irving.Mae’n arbenigwr ar hanes gwastraff ac ailgylchu.Mae’n gweithio gyda WRAP ar brosiect o’r enw ‘O Adfer i Economi Gylchol’, a ariennir gan yr Academi Brydeinig.Nod y prosiect yw defnyddio ei wybodaeth am hanes i wella ailgylchu heddiw.