Meddyginiaethau
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae’n bosibl ailgylchu meddyginiaethau mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Sut i ailgylchu meddyginiaethau
Dylid dychwelyd meddyginiaethau heb eu hagor, heb eu defnyddio a rhai heibio’u dyddiad i’r fferyllfa i’w gwaredu;
Gellir ailgylchu’r bocs cardbord sy’n dal y pecynnau swigod, ynghyd ag unrhyw ddarnau papur y tu mewn, fel taflenni cyfarwyddiadau;
Ni ddylid rhoi anadlyddion yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu gan eu bod yn cynnwys nwyon sy’n niweidiol i’r amgylchedd. Yn hytrach, gellir mynd â nhw i unrhyw fferyllfa i’w hailgylchu;
Peidiwch â fflysio meddyginiaethau i lawr y toiled.